Mynd yn syth i’r cynnwys
Cwcis a'r wefan yma

Mae'n wefan yma'n defnyddio cwcis er mwyn rhoi'r profiad arlein gorau i chi. Os hoffech chi wybod rhagor, darllenwch ein polisi cwcis

Croeso i wefan Ceisio Cartref RhCT

Croeso i CeisioCartrefRhCT. Ar y wefan yma bydd modd i chi gofrestru ar gyfer tai a gweld yr holl eiddo cymdeithasau tai sydd ar gael i'w rhentu yn Rhondda Cynon Taf drwy lenwi un ffurflen gais ar-lein. Bydd eiddo sydd ar gael i'w rhentu yn cael eu hysbysebu bob wythnos a bydd modd i chi wneud cais am yr eiddo yma ar ôl i'ch cais gael ei dderbyn ar gofrestr CeisioCartrefRhCT.

Oeddech chi'n gwybod bod bron i 5,000 o aelwydydd wedi'u cofrestru gyda CeisioCartrefRhCT yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, a'n bod ni'n dyrannu 1,100 o dai y flwyddyn ar gyfartaledd? Mae hyn yn golygu ein bod ni ddim yn gallu cynnig cartref i’r rhan fwyaf o bobl sy’n gwneud cais am dŷ ar restr aros CeisioCartrefRhCT, ac mae’r rheiny sy’n cael cynnig tŷ yn debygol o fod wedi aros am amser hir i gael eu hailgartrefu.

Yn anffodus mae'r galw am eiddo, yn enwedig llety un ystafell wely, yn sylweddol uwch na'r hyn sydd gyda ni. Oherwydd y prinder tai cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf mae'r rhestr aros yn hir iawn ac mae'n bosibl na chewch chi gynnig eiddo cymdeithasau tai. Mae’n bosibl y bydd hyd yn oed pobl sydd ag angen tai brys yn gorfod aros am amser hir cyn cael eiddo.

I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd aros cyfartalog, defnyddiwch ein teclyn amser aros cyfartalog i wirio pa mor hir y gallai gymryd i chi gael eich ailgartrefu mewn gwahanol ardaloedd yn y fwrdeistref sirol. Teclyn amser aros cyfartalog

Efallai y byddwch chi hefyd am ystyried opsiynau tai eraill, e.e. llety rhent preifat.

Os ydych chi'n poeni am golli eich cartref mae gwybodaeth am ddigartrefedd ar gael yma Digartrefedd - CeisioCartrefRhCT

Opsiynau tai eraill...

Os nad ydych chi'n siwr os rhentu cartref gan gymdeithas dai yw'r dewis gorau ar eich cyfer chi, mae gan y wefan yma lawer o wybodaeth am fathau eraill o dai. Mae hyn yn cynnwys rhentu gan landlord preifat neu brynu tŷ yn rhan o'n cynllun perchnogaeth cartref cost isel, Homestep. Edrychwch ar ddewislen 'Opsiynau Tai Eraill' i gael rhagor o wybodaeth.

Eich gwybodaeth bersonol

Mae'r Cyngor yn ymrwymo i gadw'ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel a rhoi gwybod i chi sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth. I ddysgu rhagor ynglŷn â sut rydyn ni'n diogelu'ch preifatrwydd a pham rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau i chi, darllenwch hysbysiad preifatrwydd ein gwasanaeth www.rctcbc.gov.uk/serviceprivacynotice a thudalennau diogelu data'r Cyngor www.rctcbc.gov.uk/dataprotection.  

Cysylltu â'r Garfan Ceisio Cartref

Dyddiadau hysbysebu 26

Y cylch yma

25 Ebr, tan 30 Ebr

Y cylch nesaf

Dechrau 2 Mai, tan 7 Mai
Mae nifer fawr o gwsmeriaid yn cysylltu â Ceisio Cartref RhCTar hyn o bryd. Diolch yn fawr am gysylltu â ni. Ein nod yw ymateb i'ch negeseuon - boed rheiny ar y wefan, drwy e-bost neu dros y ffôn - cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Cyhoeddwyd ar: Dydd Mercher 7 Hydref 2020

Y Newyddion